Fe fydd Gardd Goedwig gyntaf y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru yn cael ei hagor yfory, gyda’r bwriad o wella iechyd pobol trwy eu hannog i dreulio mwy o amser ynghanol byd natur.

Bydd yr ardd – sydd ar safle meddygfa Llanberis ger Caernarfon – yn “bresgripsiwn iechyd gwyrdd” i gleifion, staff a’r gymuned leol, yn ôl arweinwyr y prosiect. Mae gobaith y bydd hefyd yn hybu perthynas agosach rhwng y Gwasanaeth Iechyd a’r cyhoedd.

Y Loteri sy’n ariannu’r fenter ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan sawl corff lleol a chenedlaethol gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri, Grŵp Datblygu Llanberis, Ymddiriedolaeth Gerddi Bywyd Gwyllt Cymru ac ysgolion a grwpiau cymunedol lleol.

Ac fe fydd diwrnod agored yn cael ei gynnal yno am hanner dydd yfory lle bydd yr actor Llion Williams, y garddwr Russel Jones a’r naturiaethwr Twm Elias yn arwain y gweithgareddau.

Maes parcio

Ambra Burls, sy’n wreiddiol o’r Eidal ond erbyn hyn yn byw yn Llanberis, yw arweinydd y prosiect ac mae hi wedi bod yn cydweithio gydag Anna Williams o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i greu’r ardd:

Meddai Ambra Burls: “Doedd yna ddim byd fel hyn i’w gael yng Nghymru, ac fe roedd gan y feddygfa yn Llanberis lecyn prydferth o ardd oedd byth yn cael ei ddefnyddio. Roedden nhw wedi bwriadu ei droi yn faes parcio ond fe wnes i eu perswadio i beidio.

“Dw i’n derbyn nad oes gan bob meddygfa’r tir i greu gardd fel yr un yn Llanberis, ond dim ond un goeden maen nhw eu hangen er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y prosiect. Neu fe ellir creu gardd ar dir canolfan hamdden neu yng nghanol y pentref.

“Wrth greu’r ardd yn Llanberis, mae trigolion wedi dweud eu bod nhw wedi byw yma am ddegawdau ac erioed wedi sylwi ar yr ardd. Roedd un o’r nyrsys sy’n gweithio yn yr adeilad erioed wedi sylwi arno chwaith! Dw i’n gobeithio y bydd lot fawr o bobol yn ei ddefnyddio.”

Ymchwil

Yn ôl Ambra Burls, sydd â gradd PHD mewn Ecotherapi, mae ymchwil wedi profi bod natur yn gysylltiedig ag iechyd gwell, a hefyd yn golygu bod mwy o werthfawrogiad i’r amgylchedd.

“Yr eiliad rydan ni’n camu y tu allan, mae natur yn gallu gwneud i ni anghofio am broblemau dyddiol,” meddai.

“Rydym yn gobeithio y bydd yr henoed, ysgolion lleol a’r gymuned yn defnyddio’r ardd ac yn dysgu i warchod natur wrth gael buddion iechyd allan ohono. Mae garddio yn un o’r pethau gorau i’w wneud fel ymarfer corff.”

Fe fydd coed, blodau, llysiau, pwll i bysgod, bocsys i adar gael nythu, shed a murlun yng ngardd meddygfa Llanberis.

Bydd safleoedd tebyg yn agor ar safleoedd canolfannau hamdden Pwllheli a Phorthmadog – gyda’r gobaith y bydd y syniad yn lledu ledled Cymru.