Mae cynnwys Geiriadur Prifysgol Cymru bellach i’w gael ar y we, wedi iddo gael ei lansio yn y Senedd gan y Prif Weinidog Carwyn Jones y bore ‘ma.

Mae’r fersiwn ddigidol yn cynnwys bron i wyth miliwn o eiriau, gyda geiriau newydd fel ‘cyfrifiadur’, ‘cymuned’ a ‘chyfathrebu’ wedi eu hychwanegu, gan nad oedden nhw’n ymddangos yn y fersiwn brint.

Geiriadur Prifysgol Cymru yw’r geiriadur Cymraeg hanesyddol safonol cyntaf ac fe gafodd ei sefydlu yn 1921 gan Fwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. Gellir ei gymharu’n fras o ran ei ddull â’r Oxford English Dictionary, ond o ran ei fformat mae hanner ffordd rhwng y geiriadur hwnnw a’r Shorter Oxford English Dictionary.

Dywedodd un o olygyddion cynorthwyol y geiriadur, Sara Down, fod lansio fersiwn ddigidol o’r geiriadur  yn “garreg filltir”.

Cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr

“Mae hwn yn amser cyffrous, ac mae’r Geiriadur yn esblygu i gwrdd ag anghenion defnyddwyr cyfoes,” ychwanegodd llefarydd.

“Mae’r ffyrdd y mae pobol yn dod o hyd i wybodaeth ac yn ei ddefnyddio wedi newid yn ddramatig yn y blynyddoedd diwethaf ac yma, yn GPC, rydym wedi gweithio’n galed i wella mynediad ac argaeledd ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddefnyddwyr.”

Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones: “Mae’r fersiwn ar-lein yma yn gam mawr ymlaen yn hanes y Geiriadur. Bydd yn galluogi pobl i ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd ac yn gyflym, trwy ddefnyddio technoleg fodern.

“Hoffwn longyfarch staff Geiriadur Prifysgol Cymru ar y gwaith ardderchog maen nhw wedi ei wneud i gyflwyno’r fersiwn ar-lein. Mae’n wasanaeth gwych, a fydd yn cefnogi twf yr iaith dros y blynyddoedd i ddod.”

Ychwanegodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg sydd â’r rôl o gydgysylltu’r maes geiriadura ac o roi cyfeiriad strategol i’r gwaith: “Fel mae technoleg yn dod yn gynyddol bwysig yn y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio, mae angen i’r maes geiriadura newid ac esblygu.

“Bydd Geiriadur Prifysgol Cymru Ar-lein yn galluogi defnyddwyr, boed y rheiny’n gyfieithwyr, academwyr, myfyrwyr, gweithwyr mewn sefydliadau neu’n ddarllenwyr cyffredin, i gael gafael ar wybodaeth am eiriau Cymraeg yn hawdd ac yn gyflym.”