Céline Forrest
Merch 24 oed o Abertawe sydd wedi cael ei dewis i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth fyd-enwog Canwr y Byd  yn 2015.

Fe ddaeth y soprano Céline Forrest i’r brig mewn cystadleuaeth gafodd ei chynnal i ddewis yr ymgeisydd o Gymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd neithiwr.

Pedair merch oedd yn cystadlu am y cyfle – Menna Davies (soprano), Samantha Price (mezzo soprano), Eirlys Myfanwy Davies (mezzo soprano) a Céline Forrest (soprano)- ac  oedden nhw’n canu i’r beirniaid Dennis O’Neill, y Foneddiges Anne Evans, Della Jones, Sarah Playfair a Julian Smith.

Bu Céline Forrest yn astudio yn yr Academi Frenhinol yn Llundain ac fe fydd hi’n un o’r 20 o gystadleuwyr fydd yn teithio o bob cwr o’r byd i fynd benben am y teitl fis Mehefin nesaf.

Mae’r gystadleuaeth fawreddog yn digwydd bob dwy flynedd ac yn cael ei ystyried fel platfform i hybu gyrfa cantorion clasurol ifanc.

Fe enillodd Bryn Terfel y Song Prize yn 1989.