Nasser Muthana yn y fideo
Mae arweinydd canolfan Islamaidd yng Nghaerdydd wedi mynegi pryder y bydd y cyhoeddusrwydd sydd wedi cael ei roi i fideo, sy’n annog pobl i ymladd yn Syria, yn annog dynion ifainc eraill i deithio i’r wlad.
Dywedodd Sheikh Zane Abdo, arweinydd Canolfan Islamaidd De Cymru na ddylai’r fideo recriwtio gan y grŵp eithafol Isis fod wedi cael “platfform”.
Mae’r fideo yn dangos dau ddyn ifanc o Gaerdydd, Nasser Muthana a Reyaad Khan, y ddau yn 20 oed yn annog dynion ifanc eraill u ymuno a nhw. Credir bod brawd iau Nasser, Aseel, 17 oed, hefyd wedi teithio i Syria.
Dywedodd Sheikh Zane Abdo: “Galla’i sicrhau y bydd nifer o bobl ifainc eraill sy’n agored i’r math yma o neges yn gwylio’r fideo ac efallai yn cael eu hannog i ddilyn ôl troed Nasser a’i frawd, sy’n broblem fawr, y ffaith bod platfform wedi cael ei roi i’r fideo yma pan na ddylai fod,” meddai wth BBC Breakfast.
Roedd Sheikh Abdo yn adnabod Nasser ac Aseel, gan ddweud fod y brodyr wedi ymddangos fel llanciau “normal” nes iddyn nhw fynd drwy gyfnod “rhyfedd iawn” gan fynegi barn wleidyddol iawn.
Mae mam Khan, wedi apelio ar ei mab i ddychwelyd adref.
Cadarnhaodd Downing Street bod safleoedd gwe fel YouTube yn cael eu hannog i gael gwared a’r fideo.
Dywedodd llefarydd ar ran Rhif 10 bod y Llywodraeth eisoes wedi llwyddo i gael gwared a 15,000 o fideos ar y we sy’n cynnwys deunydd eithafol ers dechrau ymgyrch ym mis Rhagfyr i atal terfysgwyr rhag defnyddio negeseuon arlein i recriwtio Mwslimiaid o Brydain.