Julian Ruck
Mae’r wasg yng Nghymru yn wan ac yn llwfr ac ym mhoced gwleidyddion Bae Caerdydd medd awdur o Sir Gaerfyrddin.

Yn ôl Julian Ruck, sydd wedi lladd droeon ar ddibyniaeth honedig y Cymry ar nawdd cyhoeddus, mae’r wasg yng Nghymru yn “warth i unrhyw gymdeithas sy’n rhoi gwerth ar fynegi barn ac ar lywodraeth agored, ddemocrataidd.”

Mewn blog ar wefan wleidyddol Labour Uncut, mae’r awdur o Gydweli yn lladd ar “crony-istiaeth sefydliadol Cymru a ffafriaeth wenwynig y Crachach.”

Mae’n dadlau fod rhai newyddiadurwyr o Gymru yn cael nawdd gan gyrff y llywodraeth am gyhoeddi llyfrau a bod y wasg Gymreig “wedi ei gwladoli i bob pwrpas.”

“Does na ddim craffu difrifol a diarbed ar lywodraeth Cymru, dim sylwebaeth wleidyddol ddeallusol finiog,” medd yr awdur a fu’n ysgrifennu colofn ddadleuol ym mhapur y Llanelli Star cyn i’r golofn ddod i ben y llynedd.

Bu ei sylwadau ynghylch yr iaith Gymraeg ac arian cyhoeddus yn destun cwynion, ac ym mis Chwefror 2013 gwnaeth Julian Ruck gŵyn i’r heddlu ar ôl derbyn “llwyth o enllibion gan eithafwyr Cymraeg” a oedd yn ei fygwth meddai.