Mae’r delynores gyda’r llais swynol Georgia Ruth a’i band yn mynd i berfformio yn ninas Ho Chi Minh yn Fietnam ar Orffennaf y cyntaf.

Cafodd ei halbym Week of Pines groeso brwd pan ddaeth allan y llynedd, gyda’r Guardian yn dweud ei bod yn un o wynebau newydd mwya’ cyffroes canu gwerin drwy Brydain.

Ac fe enillodd hi Wobr Gerddoriaeth Gymreig y llynedd am yr albym hefyd.

Mae’r casgliad dwyieithog Week of Pines wedi cael sylw helaeth ar Radio Cymru, BBC Radio 2 a BBC 6 Music.