Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, Kevin Madge
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi rhybuddio Cyngor Sir Caerfyrddin y byddan nhw’n protestio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli os nad yw’r cyngor yn sicrhau eu bod nhw am weithredu strategaeth iaith newydd.
Ym mis Ebrill eleni fe wnaeth y cyngor dderbyn adroddiad ac argymhellion Gweithgor y Gymraeg, a ffurfiwyd gan y Cyngor yn Ionawr 2013, fel ymateb i’r dirywiad yn niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y sir yn ôl Cyfrifiad 2011.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Cyngor i roi amserlen yn ei lle i weithredu’r argymhellion hynny ac i wneud gwaith pellach ym maes cynllunio.
Maen nhw hefyd yn galw am i’r cyngor roi rhagor o ystyriaeth i sut mae cryfhau cymunedau’r sir a sut y gallen nhw newid gweinyddiaeth fewnol y cyngor i’r Gymraeg.
Protest
Heddiw, fel symbol o’r dewis sy’n wynebu’r Cyngor, fe wnaeth aelodau o’r Gymdeithas glymu balŵns lliwgar, addas i ddathliad, i un ochr o fynedfa Neuadd y Sir, a balŵns du mwy difrifol ar yr ochr arall o’r fynedfa.
Rhybuddiodd Cymdeithas yr Iaith y byddan nhw’n cynnal protest ym mhabell y cyngor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli eleni os na fyddan nhw’n cael sicrwydd gan arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge, mewn cyfarfod ar 4 Gorffennaf.
Dywedodd Sioned Elin o Gymdeithas yr Iaith: “Rydyn ni’n ymwybodol fod dros 3 blynedd wedi mynd heibio ers y Cyfrifiad diwethaf, 18 mis ers ein rali fawr yng Nghaerfyrddin a dyw’r cyngor heb wneud unrhyw beth ers cytuno ar strategaeth newydd a benderfynwyd ei derbyn ym mis Ebrill.
“Os bydd raid, fe gyhoeddwn nad yw’r Cyngor o ddifri a throi parti yn brotest ar faes y Steddfod.”