Mochyn daear
Mae cynhadledd ryngwladol i drafod sut i reoli’r diciâu, neu TB, mewn anifeiliaid fel gwartheg a moch daear  wedi cychwyn yn Neuadd y Ddinas Caerdydd.

Mae cynllun i geisio’r rheoli’r clefyd wedi bod ar waith yng Nghymru ers 2008. Ond mae un o’r arbenigwyr fydd yn siarad yn y gynhadledd wedi dweud nad yw’n glir os ydy’r system brechu moch daear yn gweithio.

Er bod cyfradd yr haint wedi disgyn yng Nghymru ers cychwyn y cynllun, dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop, ar raglen Sunday Politics Wales:

“Mae’r gostyngiad yng ngogledd Penfro yn unol â’r gostyngiad ar draws y wlad felly ar hyn o bryd does dim tystiolaeth bod y cynllun brechu moch daear yn rhoi unrhyw fudd ychwanegol…ond fydden ni ddim yn disgwyl gweld tystiolaeth ar hyn o bryd chwaith.”

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wario tua £4.6 miliwn ar gynllun brechu dros bum mlynedd.

Bydd y gynhadledd yn rhedeg am wythnos gyfan ac yn clywed gan siaradwyr fel Christianne Glossop, Alun Davies, y Gweinidog Bwyd a Chyfoeth Naturiol a Dr Paul Livingstone, Rheolwr Ymchwil ar Fwrdd Iechyd Anifeiliaid yn Seland Newydd.