Protest Cymdeithas yr Iaith yn Aberystwyth
Yn achos llys dau aelod blaenllaw o Gymdeithas yr Iaith y bore ‘ma, mae ynadon wedi penderfynu gollwng amodau’r fechnïaeth oedd yn eu rhwystro rhag mynd o fewn 50 llath i adeiladau’r Llywodraeth a’r Cynulliad.

Cafodd Robin Farrar ynghyd a chyn-gadeirydd y mudiad, Bethan Williams, eu harestio yn ystod protest yn Swyddfeydd y Llywodraeth yn Aberystwyth ym mis Ebrill, oedd yn tynnu sylw at ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad.

Roedd y ddau wedi peintio sloganau fel dros “Addysg Gymraeg i Bawb” ar wal yr adeilad.

Yn Llys Ynadon Aberystwyth y bore ma, dywedodd yr ymgyrchwyr wrth y llys eu bod yn bwriadu cymryd rhan mewn gwylnos heddychlon y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd, nos Sul yma (15 Mehefin).

Yn sgil hynny, penderfynodd yr ynadon i ollwng amodau’r fechnïaeth oedd yn eu rhwystro rhag mynd o fewn 50 llath i adeiladau’r Llywodraeth a’r Cynulliad.

‘Am brotestio eto’

Wrth siarad wedi’r gwrandawiad, dywedodd Robin Farrar ei fod yn bwriadu protestio eto gan fod amodau’r fechnïaeth wedi eu gollwng:

“Yn wyneb diffyg ymateb y Llywodraeth i’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg, doedd dim dewis gen i ond gweithredu yn y modd yma a derbyn y canlyniadau.

“Rwy’n bwriadu protestio eto gan fod yr amodau mechnïaeth wedi eu gollwng, a hynny’n heddychlon o flaen y Senedd. Rwy’n mynd i aros yno [tu allan i adeilad y Senedd] gan ddisgwyl i Carwyn Jones wneud y datganiad polisi, y mae wedi addo ei wneud ar ddydd Mawrth [Mehefin 17].”

Bydd gwrandawiad llys llawn y ddau ymgyrchydd yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener, 1 Awst yn Llys Ynadon Aberystwyth.

Barn y bobol

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi beirniadu dulliau’r mudiad o brotestio, gan ddweud eu bod yn perthyn i’r “60au a’r 70au”.

Ond mae’r mwyafrif o’r rhai wnaeth bleidleisio ym mhôl piniwn golwg360 yn credu bod dulliau protestio diweddar y mudiad  yn dal i fod yn ffordd effeithiol o ymgyrchu dros y Gymraeg.