Violas yn rocio Llanrwst
Mae Gŵyl Gwydir wedi cyhoeddi rhestr lawn o artistiaid fydd yn cymryd rhan.  Fe gynhelir yr ŵyl ar dir Clwb Rygbi Nant Conwy, Llanrwst, dros benwythnos Awst 29 a 30.

Yn ymuno â Gruff Rhys, Candelas, Keys, Gwenno, Sŵnami a Colorama bydd Cowbois Rhos Botwnnog, Sen Segur, Trwbador, Memory Clinic, Yr Eira, Houdini Dax, R. Seiliog, Siddi, Plu, Seazoo, Y Reu, Chris Jones a Palenco.

‘‘Dyma’r gorau eto dw i’n meddwl,” meddai sylfaenydd Gŵyl Gwydir,” Gwion Schiavone.

“Mae’r sin gerddoriaeth yng Nghymru yn gyffrous iawn ar hyn o bryd, ac mae’r lein-yp eleni yn sicr yw adlewyrchu hyn.  Mae cymaint o amrywiaeth a thalent yma yng Nghymru, ac mae’n fraint i ni fel criw Gwydir gael rhoi llwyfan iddynt yn ein gardd gefn.”

Gruff Rhys – “achlysur arbennig”

Sefydlwyd yr ŵyl yn 2009, ac mae wedi tyfu’n raddol ers hynny a bellach mae’n un o brif wyliau cerddoriaeth bychan y wlad.

‘‘Wrth gwrs mae croesawu Gruff Rhys i’r ŵyl yn achlysur arbennig iawn ynddo’i hun, ond dw i’n meddwl mai safon uchel cyffredinol yr arlwy, a theimlad cartrefol yr ŵyl, sy’n ei gwneud mor boblogaidd,’’ meddai Gwion Schiavone.

Bydd tocynnau pris gostyngedig ‘Carw Cynnar’ i’r ŵyl ar gael tan hanner dydd Dydd Llun Mehefin 16eg.  Gellir prynu tocynnau o’r siopau canlynol: Bys a Bawd (Llanrwst), Awen Meirion (Y Bala), Palas Print (Caernarfon a Bangor) neu o wefan sadwrn.com