Capten Cymru, Joe Allen, yn brwydro'n erbyn yr Iseldiroedd (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)
Iseldiroedd 2 – 0 Cymru

Er mai colli 2-0 oedd hanes pêl-droedwyr Cymru yn Amsterdam heno, roedd eu gwrthwynebwyr sy’n herio Sbaen yng Nghwpan y Byd mewn 9 diwrnod yn gwybod eu bod wedi bod mewn gêm.

Gyda chwaraewyr allweddol – Gareth Bale, Aaron Ramsey, Ben Davies, Ashley Williams a James Collins – yn eisiau, fe enillodd rhai o chwaraewyr llai amlwg Cymru lawer o barch.

Rhoddodd Chris Coleman gap cyntaf i asgellwr ifanc Fulham, George Williams, Paul Dummett o Newcastle ac amddiffynwr Hull James Chester.

Rhoddwyd profiad gwerthfawr hefyd i chwaraewyr ifanc eraill Declan John ac Emyr Huws – y ddau’n ennill eu hail gap.

Williams greodd y mwyaf o argraff gyda dau rediad gwych a gyffrôdd y dorf.

Hanner cyntaf da

Gellid dadlau mai Cymru oedd y tîm gorau am gyfnodau hir yn yr hanner cyntaf, ac roedden nhw’n anlwcus i fod ar ei hôl hi ar yr egwyl.

Roedd y tri yng nghanol cae Cymru – y capten Joe Allen, Andy King a Joe Ledley’n weithgar ac yn ddisgybledig.

Creodd Hal Robson-Kanu, Jonathan Williams a Simon Church argraff yn yr ymosod gyda rhedeg diflino.

Roedd James Chester o yn edrych yn gyfforddus wrth ennill ei gap cyntaf, a Danny Gabbidon heb edrych cystal ers 5 mlynedd neu fwy wrth ei ochr yng nghanol yr amddiffyn.

Ond er i Gymru fygwth ac ennill sawl cic gornel, ni chafwyd yr un ergyd ar y targed yn yr hanner cyntaf.

Ar y llaw arall, roedd Wayne Hennessey wedi gorfod arbed yn dda unwaith o ergyd van Persie, a chyfle i Robben wedi ei chlirio oddi ar y llinell cyn i’r Iseldiroedd rwydo.

Wedi rhediad da gan van Persie wedi 32 munud, y cyfan allai Hennessey wneud oedd gwyro ei ergyd i lwybr Robben i roi’r oruchafiaeth i’r tîm cartref.

Williams yn cyffroi

Wedi’r hanner roedd y tîm cartref yn fwy cyfforddus, a Chymru’n dechrau blino – y rhan fwyaf o’r tîm heb chwarae gêm ers tair wythnos.

Er hynny, doedd dim llawer ynddi a Chymru’n dal i frwydro’n ddewr a dal i gystadlu.

Ar ôl cystal perfformiad tan hynny, roedd yn eironig mai eiliad o ddiffyg canolbwyntio yng nghanol y cae arweiniodd at ail gôl y tîm cartref.

Wedi cipio’r bêl o bas lac, gwrth ymosododd Robben o’i hanner ei hun cyn croesi i’r eilydd Jeremain Lens rwydo.

Er i gyfle gorau Cymru ddisgyn i Jermaine Easter eiliadau ar ôl dod i’r maes, yr hyn fyddai wedi codi calon y cefnogwyr a deithiodd fwyaf oedd ymddangosiad asgellwr ifanc Fulham, George Williams o’r fainc.

Roedd ei rediadau’n drydanol, ac roedd yn fywiog yn amddiffynol – bu ond y dim iddo sgorio gôl gofiadwy wedi un rhediad gwych yn fuan ar ôl dod i’r maes.

Balch

Roedd tîm hyfforddi Cymru’n falch gyda pherfformiad eu tîm, ond efallai ychydig yn siomedig i beidio cael rhywbeth o’r gêm.

“Rydan ni’n eithaf balch efo’r gêm” meddai hyfforddwr Cymru, Osian Roberts.

“Rydan ni chydig bach yn siomedig â’r goliau y gwnaethon ni eu rhoi i ffwrdd, ac fe wnaethon ni greu cyfleoedd.”

“Roedd ein hogiau ni’n ddewr iawn, fe gawsom ni gyfleoedd ac yn anlwcus” meddai Chris Coleman.

“Ry’n ni’n siomedig ein bod ni wedi colli, ond roedd yn berfformiad mawr gan y tîm heno.”

Tîm Cymru: Hennessey, Gunter, Taylor (Dummett), Chester, Gabbidon, Ledley (Huws), Allen, King (Vaughan), Robson-Kanu (John), Church (Easter), J. Williams (G. Williams)