Suddodd y 'Thetis' ger Llandudno
Bydd gwasanaeth coffa yn cael ei gynnal ym Mhenbedw heddiw (Sul) er cof am 99 o ddynion foddodd pan wnaeth y llong danfor ‘Thetis’ suddo oddi ar arfordir Llandudno yn 1939.

Bydd criw badau achub Llandudno a Moelfre yn gosod torchau ar wyneb y dŵr yn y fan ble digwyddodd y ddamwain.

Roedd 103 o ddynion ar fwrdd y llong danfor newydd ‘Thetis’ oedd wrthi’n cael ei phrofi pan suddodd 12 milltir oddi ar y Gogarth ger Llandudno.

Roedd llawer mwy o ddynion nag arfer ar ei bwrdd y diwrnod hwnnw oherwydd y profion gan gynnwys peirianwyr o gwmni adeiladu llongau Cammell Laird.

Roedd digon o ocsigen am 36 awr ar ei bwrdd ond am fod cymaint yn teithio arni wnaeth o ddim parhau.

Llwyddodd dau longwr i gyrraedd wyneb y môr ond wrth i ddau arall geisio dianc fe lenwodd y ‘Thetis’ efo dŵr a suddo, a dim ond dau arall lwyddodd i oroesi.

Mae disgynyddion y rhai foddodd wedi galw am godi cofeb er cof am eu hanwyliaid.