Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth, wedi i ladron geisio targedu siop yn Sir Benfro yr wythnos hon.

Fe ddaeth dau ddyn at siop Kerry Foods Ltd ym mhentre’ Arberth tua 4 o’r gloch y bore, ddydd Mercher (Mai 28) tra’r oedd gyrrwr fan yn danfon nwyddau yno.

Fe geisiodd y ddau ddyn gymryd allweddi’r gyrrwr oddi arno, ond mi fethon nhw. Wedi hynny, fe redon nhw i ffwrdd i gyfeiriad yr orsaf drenau. Roedd un o’r dynion yn gwisgo esgidiau neu bâr o dreinyrs lliw coch.

Ni chafodd y gyrrwr ei anafu yn y digwyddiad.