Gogzilla yn ystwytho'i anferthol gyhyrau
Heno ar Barc yr Arfau mi fydd Northampton yn herio Caerfaddon yn ffeinal Cwpan Amlin.

Mi fydd asgellwr Cymru George North yn dechrau i Northampton a prop Cymru Paul James yn dechrau i Gaerfaddon.  Mi fydd canolwr Cymru Gavin Henson yn gorfod bodloni ar le ymysg yr eilyddion i Gaerfaddon.

Mae disgwyl i North golli’r gêm dreial y Probables v Possibles oherwydd bydd Northampton yn herio’r Saraseniaid yn Nhwickenham yn rownd derfynol cyngrhair Aviva.

‘‘Dw i erioed wedi chwarae ym Mharc yr Arfau, felly mi fydd yn brofiad arbennig, mae’n braf cael dod yn ôl i Gymru,’’ meddai George North wrth adran chwaraeon y BBC.

Mae Paul James yn credu bod Gavin Henson yn llawn haeddu cael ei alw yn ôl i garfan Cymru.  Nid yw Henson wedi chwarae dros Gymru ers 2011, ond mae wedi ei ddewis ar gyfer y gêm dreial Probables v Possibles yr wythnos nesaf.