MV Swanland Llun: MAIB
Mae’r cwest i farwolaeth 6 o forwyr o Rwsia wedi agor yng Nghaernarfon heddiw.
Roedd yr MV Swanland yn hwylio oddi ar arfordir Pen Llŷn yn oriau man y bore ar 27 Tachwedd 2011 pan aeth i drafferthion mewn tywydd garw.
Bu farw chwe aelod o griw’r llong o Rwsia.
Roedd ymchwiliad i’r suddo gan yr Uned Ymchwilio i Ddamweiniau Morol wedi dod i’r casgliad bod y llong wedi suddo o fewn chwarter awr iddi fynd i drafferthion.
Roedd hi’n cludo calchfaen o Landdulas yng ngogledd Cymru i Ynys Wyth ar y pryd.
Meddai’r ymchwiliad bod y llong nwyddau wedi dioddef “methiant strwythurol trychinebus” cyn suddo.
Llwyddodd dau o’r criw i ddringo i mewn i fad achub a chawsant eu hachub gan hofrennydd yr Awyrlu. Cafodd corff trydydd aelod o’r criw ei ddarganfod yn ddiweddarach ond dyw cyrff y pum aelod arall erioed wedi cael eu darganfod.
Roedd post mortem yr aelod o’r criw a gafodd ei ddarganfod wedi dangos ei fod wedi marw trwy foddi.
Dywedodd Uwch Grwner Gogledd Orllewin Cymru, Dewi Pritchard Jones, wrth y rheithgor yn y cwest y byddai’n yn gofyn iddynt ystyried os wnaeth y dynion eraill farw yn yr un ffordd.
Mae disgwyl i’r cwest bara tridiau.