Mae dros 1,100 o lefydd bwyta ledled Cymru wedi derbyn sgôr hylendid isel iawn, yn ôl arolwg diweddar.

O dan gyfraith newydd gafodd ei chyflwyno ym mis Tachwedd, mae’n rhaid i fwytai gael sgôr o 0 i 5 ynglŷn â sut mae bwyd yn cael ei baratoi, ei goginio a’i gadw, cyflwr y lleoliad, a sut y rheolir diogelwch bwyd o fewn y busnes. Mae sgôr o 5 yn golygu bod safonau hylendid yn dda iawn.

Dangosodd y ffigyrau, a ddaeth i law Plaid Cymru, mai ym Mhen-y-bont ar Ogwr y mae’r nifer uchaf o lefydd gyda graddfa sero, gydag 11, a naw yr un yn Rhondda Cynon Taf a Phowys.

Yn Abertawe, cafodd 98 lle bwyta sgôr o sero neu un, o gyfanswm o 1,309 o fwytai.

Roedd 154 o lefydd yng Nghaerdydd wedi sgorio graddfa un a hynny allan o bron i 2,500 o sefydliadau bwyd.

‘Gormod sydd ddim yn cyrraedd y safon’

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Fwyd, Llŷr Gruffydd: “Dangosodd mwyafrif helaeth y sefydliadau bwyd eu bod yn rhagorol pan ddaw’n fater o sicrhau safonau hylendid bwyd da, ond mae gormod o hyd nad ydyn nhw’n cyrraedd y safon.

“Lle bo methiannau sylweddol, mae angen i awdurdodau lleol ei gwneud yn glir i fusnesau y gallan nhw gael eu herlyn os bydd eu gweithredoedd yn peryglu iechyd defnyddwyr.”

“Ac mae’n hanfodol fod awdurdodau lleol yn sicrhau fod pob eiddo yn arddangos eu sgôr – fel y gall y cyhoedd eu gweld a hefyd i annog busnesau i gadw at y safonau uchaf.”