Siop Menter Cwm Gwendraeth
Mae dwy o arweinwyr Menter Iaith hynaf Cymru, Menter Cwm Gwendraeth, wedi ymddiswyddo, yn ol adroddiadau gan y BBC heno.

Cyhoeddodd y prif weithredwr, Cathryn Ings, a chadeirydd y bwrdd rheoli, Sian Thomas, eu bod yn gadael eu swyddi’r prynhawn ‘ma.

Mae’r ymddiswyddiadau yn dod ar adeg pan mae’r mudiad yn wynebu nifer o newidiadau.

Dywedodd  Sian Thomas mae materion yn ymwneud â’r modd roedd yr is-bwyllgor yn ceisio cymryd penderfyniadau yn hytrach na gwneud argymhellion i’r bwrdd rheoli oedd y rheswm y bu iddi adael, yn ôl BBC Cymru.

Cafodd Menter Cwm Gwendraeth ei sefydlu yn 1991.