Cyfrifiad 2011
Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi penderfynu derbyn adroddiad sy’n cynnig 70 o argymhellion i gryfhau’r Gymraeg yn y sir.

Roedd y cyngor llawn yn trafod yr adroddiad y bore ‘ma, ar ôl i weithgor lunio’r argymhellion yn dilyn canlyniadau “argyfyngus” Cyfrifiad 2011. Sir Gaerfyrddin welodd y cwymp mwyaf yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, sef 6%.

Mae’r adroddiad yn galw am “newidiadau radical” i geisio rhwystro’r Iaith Gymraeg rhag diflannu ymhellach ac yn cynnig argymhellion ym myd addysg, cynllunio, busnes, pobol ifanc ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mae bwrdd gweithredol y cyngor eisoes wedi cefnogi’r adroddiad.

‘Amser gweithredu’

Cyn y cyfarfod, roedd Cymdeithas yr Iaith wedi gosod baner ar wal maes parcio Neuadd y Sir yng Nghaerfyrddin gyda’r neges “Cyngor Sir Gâr – Mae’n amser Gweithredu!”.

“Rydyn ni’n falch fod y gweithgor trawsbleidiol yn mynd i barhau er mwyn cadw ffocws ar y gwaith. Nodwn nad yw’r Cyngor wedi addo mwy na gweithredu rhai materion brys ac nad ydynt wedi rhoi amserlen bendant yn ei lle,” meddai Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn y rhanbarth.

” Disgwyliwn yn awr fod amserlen weithredu mewn lle erbyn y ’Steddfod pryd y bydd llygaid Cymru ar Sir Gâr.

“Mae 115 o ddyddiau nes y byddwn ni’n cynnal Parti Mawr, yn uned y Cyngor Sir ei hun, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli – mwy na digon o amser i’r Cyngor gyhoeddi amserlen i ddangos eu bod o ddifri.”