Mae ceffyl sy’n cael ei hyfforddi yng Nghymru ymysg y ffefrynnau i ennill y ras fwyaf ym myd rasio dros y clwydi heddiw.

Mae nifer o arbenigwyr o’r farn y bydd Teaforthree yn perfformio’n dda yn ras y Grand National heddiw. Mae’r ceffyl deg oed yn cael ei hyfforddi gan Rebecca Curtis yn Sir Benfro ac mae hi’n obeithiol am y ras eleni ar ôl i Teaforthree ddod yn drydydd yn y ras fawr y llynedd.

Bydd deugain o geffylau yn cystadlu yn y Grand National eleni.