Dyw defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad heb gynyddu ers dechrau datganoli, yn ôl ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a gafodd ei ryddhau heddiw.

Er bod tua thraean o Aelodau Cynulliad yn gallu siarad y Gymraeg, dim ond 12% o’r amser gafodd yr iaith ei defnyddio yng nghyfarfodydd llawn y Cynulliad y llynedd – yr un canran â thymor cyntaf y sefydliad yn 1999.

Cyn-Lywydd y Cynulliad Dafydd Elis-Thomas sydd ar frig y rhestr o ran faint o’i areithiau sydd wedi bod yn Gymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Dangosodd y ffigyrau hefyd bod Aelodau Cynulliad Ceidwadol yn defnyddio’r Gymraeg 2% o’r amser, Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol 6% o’r amser, a Phlaid Cymru mewn 54% o’r trafodaethau yn siambr y Senedd.

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y dylai canlyniadau’r arolwg fod yn “fater o gryn embaras” i’r Cynulliad.

‘Rhaid newid’

“Mae’r ffigyrau hyn yn dangos nad yw ein Cynulliad Cenedlaethol yn llwyddo i weithio trwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Robin Farrar.

“Mae defnydd o’r Gymraeg yn parhau i fod yn isel iawn; does dim cynnydd go iawn wedi bod ers dechrau datganoli. Mae nifer o sefydliadau yn gwneud llawer yn well – a dylai hynny fod yn fater o gryn embaras i’n fforwm democrataidd cenedlaethol.

“Nid yw’r Cynulliad yn sefydliad gwirioneddol Gymraeg, er gwaethaf ei ymrwymiadau cyhoeddus – rhaid i hynny newid.

“Mae Comisiwn y Cynulliad wedi dewis eithrio ei hun o ddyletswyddau cyrff eraill i ddarparu gwasanaethau Cymraeg – y safonau iaith newydd. Mae baich arbennig arno felly i brofi ei fod yn mynd i wella’n sylweddol o dan ei gyfundrefn unigryw.

“Fel mudiad, rydym wedi cwrdd nifer o weithiau gyda swyddogion y Cynulliad dros y ddwy flynedd ddiwethaf i bwyso arnyn nhw i wella’r cynllun iaith. Mae’r ffaith eu bod nhw’n dal i gyhoeddi nifer o ddogfennau yn Saesneg cyn eu cyhoeddi yn Gymraeg, yn arwydd o’u diffyg ymrwymiad i greu awyrgylch gwirioneddol Gymraeg.

Canmoliaeth i Dafydd Elis-Thomas

Wrth drafod y ffigyrau am ddefnydd y Gymraeg gan Aelodau Cynulliad unigol, ychwanegodd Robin Farrar: “Nid ydym am feirniadu unigolion am eu defnydd o’r Gymraeg, oherwydd bod eu penderfyniadau unigol yn cael eu llywio gan systemau a’r hinsawdd ieithyddol yn y Cynulliad.

“Fodd bynnag, mae Dafydd Elis-Thomas yn haeddu canmoliaeth am ei ddefnydd cyson o’r Gymraeg, ac rwy’n gobeithio y bydd rhagor o Aelodau Cynulliad yn dilyn ei esiampl.”

Dywedodd AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth ar y Post Cyntaf bore ma bod na “ddyletswydd arnom ni i gyd i siarad Cymraeg yn y Cynulliad.”

‘Cynnydd i’w groesawu’

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad ar gyfer yr Iaith Gymraeg: “Ni allaf gadarnhau cywirdeb y data. Serch hynny mae’r cynnydd a awgrymir i’w groesawu. Dylid nodi bod 17 o Aelodau Plaid Cymru yn 1999 a nifer ohonom yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson.

”Erbyn hyn mae mwy o Aelodau o’r pleidiau eraill yn defnyddio’r Gymraeg yn gyson. Mae rhai fel Mike Hedges a David Rees wedi dysgu’r Gymraeg yn ystod y Cynulliad presennol ac wedi mentro i’w defnyddio’n gyhoeddus.

“Mae’r Comisiwn yn parhau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a gobeithio y bydd y ganran o gyfraniadau yn y Gymraeg ym mhob elfen o weithgaredd y Cynulliad yn parhau i gynyddu.

“Mae’r ffaith bod nifer ohonom yn defnyddio’r Gymraeg yn helaeth yn brawf nad oes unrhyw rwystr, felly byddwn yn annog fy nghyd-aelodau sy’n medru’r Gymraeg i’w defnyddio yn amlach. Byddwn ni fel Comisiwn yn parhau i annog ac i gynorthwyo Cymry Cymraeg a dysgwyr i ddefnyddio’r iaith.”

Gellir gweld y ffigurau’n llawn yma: http://cymdeithas.org/cymraeg-cynulliad/pobl

Mae rhagor am y stori yma yn rhifyn yr wythnos hon o Golwg.

Dyma graff sy’n dangos y defnydd o’r Gymraeg gan aelodau unigol: