Rhys Ifans
Fe fydd drama radio Dylan Thomas, Under Milk Wood, yn cael ei throsi yn ffilm am yr eildro, gyda Rhys Ifans yn chwarae un o’r prif rannau.

Drama radio oedd Under Milk Wood yn wreiddiol, wedi ei lleoli ym mhentref ffuglennol Llareggub, ac fe gafodd ei throsi yn ffilm am y tro cyntaf yn 1972.

Kevin Allen fydd yn cyfarwyddo’r ffilm newydd, a fydd yn cael ei rhyddhau i nodi 60 mlynedd ers i’r ddrama radio gael ei darlledu am y tro cyntaf yn ogystal â nodi canmlwyddiant genedigaeth Dylan Thomas.

Bydd y script yn Gymraeg a Saesneg a bydd Rhys Ifans yn chwarae rhan “y llais cyntaf”, a gafodd ei chwarae gan Richard Burton yn y ffilm wreiddiol.

Mae S4C yn cyfrannu tuag at gyllideb y ffilm a fydd yn cael ei ffilmio ar arfordir gorllewinol Cymru.