Mae cerddorion neu fandiau newydd, sy’n canu yn Gymraeg neu’n Saesneg, yn cael eu gwahodd i wneud cais i fod yn rhan o gynllun newydd i hybu talent gerddorol newydd yng Nghymru.

Mae prosiect Gorwelion, sy’n cael ei redeg ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn chwilio am 12 o  artistiaid newydd i’w cefnogi yn ystod y flwyddyn nesaf.

Bydd yr artistiaid llwyddiannus yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau a gwyliau ar draws Cymru ac yn cael eu cerddoriaeth wedi ei chwarae ar orsafoedd Radio Cymru a Radio Wales.

Fe fydd y cynllun yn cefnogi’r artistiaid mwyaf cyffrous, sydd heb arwyddo i label recordio, sydd â’r potensial i dorri tir newydd yng Nghymru a thu hwnt.

‘Helpu artistiaid i gyrraedd y lefel nesaf’

Dywedodd Golygydd Rhaglenni BBC Radio Cymru, Betsan Powys: “Mae cerddoriaeth newydd wrth galon gweithgaredd BBC Radio Cymru, gyda chyfle i glywed cerddoriaeth Gymraeg newydd ar nifer o’n rhaglenni, ond mae Gorwelion yn gyfle newydd i gefnogi grŵp bach o artistiaid a’u helpu i gyrraedd y lefel nesaf.

“Ry’n ni’n ddiweddar wedi gweld yr effaith bositif mae digwyddiadau fel  gŵyl ryngwladol Womex wedi cael ar artistiaid Cymraeg fel Georgia Ruth a Gwyneth Glyn. Mae hwn yn gyfle i ni weld mwy o artistiaid o Gymru, gyda’n cefnogaeth ni, yn llwyddo yn rhyngwladol.”

‘Talent gerddorol anhygoel’

Dywedodd Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru:  “Rydym ni’n falch iawn o gydweithio gyda BBC Cymru ar Gorwelion i gyflawni dyhead i ddatblygu’r gerddoriaeth newydd orau yng Nghymru.

“Yn ogystal â mentora’r 12 artist, ar hyd y flwyddyn, ni’n gobeithio creu mwy o gyfleoedd i’r gynulleidfa glywed y dalent cerddorol anhygoel rydym ni’n creu yma yng Nghymru.”

Y dyddiad cau i dderbyn ceisiadau yw 31 Mawrth, 2014 ac mae cerddorion a grwpiau sydd eisiau bod yn rhan o’r prosiect yn  gorfod danfon recordiad o waith gwreiddiol, llun a bywgraffiad byr.

Bydd artistiaid Gorwelion yn cael eu dewis gan banel o arbenigwyr o’r diwydiant cerddoriaeth radio. Fe fydd y 12 llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar 25 Ebrill, 2014 ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru yng Ngŵyl Focus Wales, Wrecsam.

Am fanylion llawn ewch i bbc.co.uk/gorwelion.