Tommo
Mi fydd amserlen newydd Radio Cymru yn dechrau ddydd Llun, gyda chyflwynwyr selog fel Nia Roberts yn cymryd sedd gefn wrth i leisiau newydd ymuno â’r orsaf.

‘Tommo’ – sef Andrew Thomas o Aberteifi – fydd un o’r lleisiau newydd hynny ynghyd â’r ddarlledwraig Shân Cothi – a bydd rhaglenni John Hardy, Heledd Cynwal a Daf a Caryl yn dod i ben.

Ond wrth i’r arlwy newydd ddod i’r fei mae rhybudd.

Yn ôl y newyddiadurwr Gwilym Owen,  efallai mae dyma gyfle olaf yr orsaf i geisio “torri rhych newydd, sy’n hanfodol i’n dyfodol ni fel cenedl ddwyieithog”.

Ac mae’r darlithydd cyfryngau Eifion Lloyd Jones yn credu fod “peryg mawr” ymhob newid ac nad oes angen disodli cyflwynwyr sy’n gwneud gwaith da yn barod.

‘Perthnasol’

Yn ôl Golygydd Rhaglenni BBC Cymru, Betsan Powys, bydd y newidiadau yn gwneud yr orsaf yn fwy perthnasol i bobol Cymru:

“Fe fydd pob math o leisiau ar yr orsaf, pob un yn hoff lais i rywun, a phob un yn siarad Cymraeg rhywun,” meddai.

Ond pryder Eifion Lloyd Jones yw bod peryg colli mwy o gynulleidfa gyda newid mor fawr:

“Mae angen cyfoesi, ond dw i ddim yn credu mai drwy chwyldro mae hynny.

“Mae cynulleidfa yn draddodiadol – ond bydd Tommo yn cyfathrebu hefo un rhan o’r gynulleidfa mewn un rhan o’r wlad. Mae’n rhaid i gyflwynwyr fod yn llafar ac yn niwtral o ran acen.

“Ac mae peryg y bydd y rhaglenni yn rhy faith. Byddai amrywiaeth yn cadw diddordeb y gynulleidfa.”

Llithro

Yn ôl ffigyrau gwrando diweddaraf Radio Cymru, mae 140,000 o bobol yn gwrando ar yr orsaf bob wythnos – o’i gymharu â 466,000 o bobol sy’n gwrnado ar Radio Wales.

“Pam yn enw rheswm y gadawyd i Radio Cymru i lithro a llithro a llithro dros y blynyddoedd pan oedd hi’n amlwg bod yr arlwy oedd yn cael ei chynnig yn cael ei gwrthod gan drwch poblogaeth y Cymry Cymraeg?”, meddai Gwilym Owen ar raglen Dan yr Wyneb Dylan Iorwerth ddechrau’r wythnos.

“Rydw i’n dymuno pob llwyddiant [i Radio Cymru], ac yn llongyfarch Betsan Powys ar geisio, efallai ar y munud olaf, dorri rhych newydd ar gyfer y gwasanaeth newydd.”

Mae Gwilym Owen yn gobeithio “y gwelwn ni ailfywiochau Radio Cymru. Mae hwnna a Radio Wales yn hanfodol i’n dyfodol ni fel cenedl ddwyieithog.”