Heather Joyce - am roi'r gorau iddi
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd newydd gyhoeddi ei bod yn rhoi’r gorau i’r gwaith.
Fe fydd y Cynghorydd Heather Joyce yn parhau i wasnaethau ward Llanrhymi fel cynghorydd.
Wrth wneud y cyhoeddiad y prynhawn yma, fe ddisgrifiodd ei hun fel “arweinydd anfoddog”, a’i bod yn dymuno gallu treulio mwy o amser gyda’i theulu a’i gwr tost.
Datganiad
Yn ei datganiad, mae Heather Joyce yn dweud ei bod yn falch iawn o record y Cyngor dros y ddwy flynedd ddiwetha’:
“R’yn ni wedi cyflawni llawer, ac mae hwn wedi bod yn benderfyniad anodd i mi, ond mae fy ngwr yn dost ac rwy’ i wedi teimlo ers peth amser fod angen i mi dreulio mwy o amser yn ei gefnogi e trwy’r cyfnod anodd hwn. Fe fydda’ i hefyd yn troi fy ngolygon yn ôl at fy nheulu ac at bobol ward Llanrhymni.
“Rwy’n credu fy mod wedi cymryd y cyfrifoldeb o arwain y Cyngor o ddifri’, ac rwy’n credu fy mod yn gadael y Cyngor mewn gwell cyflwr na phan ddes i i’r swydd,” meddai wedyn.
“Rwy’n falch ein bod, yn ystod cyfnod anodd iawn, wedi llwyddo i osod seiliau llwyddiannus a fydd yn gwasanaethu pobol Caerdydd yn anrhydeddus yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”