Peter Hain - angen Ysgrifennydd
Mae’r pleidiau eraill wedi ymosod ar Lywydd y Cynulliad am alw am ddiwedd ar swydd Ysgrifennydd Cymru.
Roedd Dafydd Elis-Thomas, sydd hefyd yn AC i Blaid Cymru, yn dilyn agenda annibyniaeth, meddai Ysgrifennydd presennol Cymru, Cheryl Gillan.
Ac mae angen cynrychiolydd o Gymru yn y cabinet yn atgoffa gweinidogion eraill am anghenion y wlad, meddai ei rhagflaenydd, Peter Hain.
Roedd yn cyhuddo Dafydd Elis-Thomas o fynd y tu hwnt i’w gyfrifoldebau gyda’i alwad am ddileu Swyddfa Cymru a chael perthynas mwy uniongyrchol rhwng Llywodraethau Cymru a Phrydain.
Ond mae yntau wedi cydnabod y bydd angen torri swyddi a newid ffocws Swyddfa Cymru yn sgil y Refferendwm ddydd Iau.
‘Angen Ysgrifennydd’
Roedd Peter Hain yn cyhuddo Dafydd Elis-Thomas o “swcro drwg” gyda’i sylwadau ond roedd yn cydnabod y gallai swyddi ysgrifenyddion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu cyfuno yn y dyfodol.
“Fe fydd angen wastad am Ysgrifennydd Gwladol i Gymru,” meddai wrth Radio Wales. “Fe fydd angen rhywun o gwmpas bwrdd y Cabinet.”