Mae bron i un o bob 10 o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru wedi cysylltu â’r llinell ffôn ChildLine ynghylch methiannau a gwendidau yn y system gofal.

 Yn ôl adroddiad ar ChildLine, roedd 4,705 o blant mewn cartrefi maeth neu breswyl neu’n derbyn mathau eraill o ofal yng Nghymru yn 2009.

 Allan o’r rhain, fe wnaeth 436 – rhai ohonyn nhw mor ifanc â phump oed – gysylltu â chanolfannau ChildLine yng Nghymru’n gofyn am help oherwydd problemau ynglŷn â’u gofal. Roedd llawer wedi dioddef camdriniaeth corfforol a rhywiol ac yn teimlo ar goll ac yn ddiymadferth yn y system gofal.

 Mae’r adroddiad gan yr elusen NSPCC yn galw ar awdurdodau lleol i sicrhau bod gan blant sy’n derbyn gofal oedolyn i siarad drostyn nhw pan maen nhw angen help. Ar hyn o bryd, yr unig adeg y mae gan blentyn hawl i ‘eiriolwr’ yw os oes arnyn nhw eisiau gwneud cwyn ffurfiol ynghylch eu gofal.

 Cynnydd

 Dros y pum mlynedd ddiwethaf trwy Brydain, mae’r nifer o blant mewn gofal sy’n cysylltu â ChildLine wedi cynyddu dros 30 y cant o 2,415 i 3,196.

 Meddai rheolwr gwasanaethau ChildLine, Jonathan Green:

 “Mae lleiafrif yn dal i gael eu gadael i lawr gan y system gofal. Bob dydd mae plant yn siarad gyda ni am eu bywydau’n llawn poen a gofid.

 “Pan mae hyn yn digwydd, mae angen i blant wybod bod rhywun yno i siarad ar eu rhan ac sy’n annibynnol oddi wrth yr awdurdod lleol.”