Mae Galw Iechyd Cymru wedi amddiffyn eu gwasanaeth Cymraeg ar ôl i Golwg360 ddatgelu nad yw ar gael am beth o’r amser.

Maen nhw’n dweud bod modd cael gwasanaeth trwy’r Gymraeg neu un o 120 o ieithoedd eraill trwy “wasanaeth ffôn cyfieithu a chyfieithu ar y pryd”.

Fe ddangosodd ffigurau a gyhoeddwyd ddoe mai dim ond ychydig tros hanner un y cant o’r galwadau i’r gwasanaeth oedd yn gofyn am wasanaeth Cymraeg.

Ond pan gysylltodd Golwg360 brynhawn ddoe, roedd neges yn dweud nad oedd neb Cymraeg ar gael ac y byddai’r alwad yn cael ei trin yn Saesneg.

Datganiad yr Ymddiriedolaeth

Dyma gyfieithiad llawn o ddatganiad Iwan Griffiths, Rheolwr Clinigol Galw Iechyd Cymru:

“Rydym yn credu y dylai Galw Iechyd Cymru fod ar gael i holl bobol Cymru, waeth beth eu hoed, hil, rhyw, gallu neu ddewis iaith.

“Gallwch alw Galw Iechyd Cymru a siarad gyda chynghorydd yn Saesneg, Cymraeg neu un o fwy na 120 o ieithoedd trwy wasanaeth cyfieithu achyfieithu ar y pryd ar y ffôn.

“Rydym yn cydnabod a pharchu’r amrywiaeth ieithoedd sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru a’r angen i gefnogi’r anghenion hyn trwy ffyrdd newydd ac arloesol o weithio.

“Rydym yn parhau i ddefnyddio strategaethau i recriwtio a chadw staff Cymraeg eu hiaith o fewn y gwasanaeth a gyda lansiad Mwy na Dim Ond Geiriau, fframwaith cenedlaethol strategol i’r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd a chymdeithasol, bydd yr Ymddiriedolaeth yn parhau i ganolbwyntio ar gryfhau gwasanaethau Cymraeg i wella ansawdd gofal i’n cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau.”