Neuadd Pantycelyn
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi amddiffyn eu penderfyniad i symud myfyrwyr cyfrwng Gymraeg o Neuadd Pantycelyn wrth i undeb y myfyrwyr Cymraeg baratoi i gynnal rali brotest arall dros y Sul.

Bwriad y Brifysgol yw symud y myfyrwyr Cymraeg i ddatblygiad newydd ar Fferm Penglais uwchben Aberystwyth a fydd yn agor ym mis Medi 2014 – er y bydd myfyrwyr yn cael y dewis i aros yn Neuadd Pantycelyn am flwyddyn ychwanegol nes 2015.

Dyw myfyrwyr UMCA ddim yn hapus â’r penderfyniad, gan ddadlau nad yw’r llety newydd yn addas ar gyfer anghenion y gymuned Gymraeg.

Ond mae’r Brifysgol wedi cadarnhau wrth Golwg360 nad ydyn nhw wedi newid eu meddwl.

Sgwrsio â siaradwyr

Mae’r Brifysgol wedi gwrthod asesiad UMCA fod “tystiolaeth gref” i ddangos y byddai gadael neuadd Pantycelyn yn niweidiol i’r iaith a’r gymuned o fyfyrwyr Cymraeg, yn dilyn adroddiad a gomisiynwyd i ystyried y mater.

Ac maen nhw wedi gwrthod cyhuddiad UMCA o “dactegau annerbyniol” wedi i Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, Rhodri Llwyd Morgan, gysylltu â rhai o siaradwyr gwadd y rali i geisio esbonio’u sefyllfa.

“Mae’r Brifysgol yn trafod yn gyson gyda chynrychiolwyr etholedig ac unigolion sydd â diddordeb mewn meysydd penodol er mwyn sicrhau eu bod yn llawn ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf,” meddai’r datganiad.

“Mae’n hollol briodol felly fod y Brifysgol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau fod y rhai sydd wedi mynegi diddordeb yn natblygiad Fferm Penglais a symud y Llety Cymraeg penodedig o Adeilad Pantycelyn, yn llawn ymwybodol o’r gwaith sydd yn cael ei wneud yma er mwyn datblygu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.”

“Mewn ymateb i’r consyrn a leisiwyd gan gynrychiolwyr y myfyrwyr, comisiynwyd adroddiad ardrawiad iaith gan y Brifysgol,” meddai’r Brifysgol.

“Ac [mae’r adroddiad yn] nodi yn ddiamwys na fyddai’r symud i Fferm Penglais yn cael effaith negyddol ar y defnydd o’r Gymraeg gan y myfyrwyr, ac y byddai’n fodd o ddenu rhagor o fyfyrwyr i eisiau byw yn y Llety Cymraeg newydd.

Dwy neuadd Gymraeg?

Cadarnhaodd y Brifysgol hefyd nad ydyn nhw wedi newid eu cynlluniau ac mai dim ond am un flwyddyn academaidd arall y bydd Neuadd Pantycelyn ar agor – fe fydd yn cau yn 2015.

Fe fydd y dewis o ddwy neuadd breswyl cyfrwng Gymraeg ar gael i fyfyrwyr yn ystod y flwyddyn honno o Fedi 2014 ymlaen – y neuadd bresennol, a’r neuadd newydd ar Fferm Penglais.

“Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i gynyddu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg ac o wneud hynny, sicrhau bod ein myfyrwyr yn medru cyfrannu at gynnal a datblygu ethos cymunedol Cymraeg y Brifysgol,” meddai’r datganiad.

“Yn rhan o hynny rydym yn ymrwymo i ddarparu Llety Cymraeg penodedig. Ym Medi 2014 bydd aelodau o gymuned myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Aberystwyth yn medru dewis byw mewn llety newydd sbon ar Fferm Penglais, mewn ardal Gymraeg penodedig, neu ym Mhantycelyn.

“O fis Medi 2015 Fferm Penglais fydd lleoliad y Llety Cymraeg.”