Nick Bourne, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig
Dileu trethi i fusnesau bach a chreu ardaloedd menter mewn ardaloedd difreintiedig fydd dau o addewidion y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Cafodd hyn ei gadarnhau gan eu harweinydd Nick Bourne yn eu cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw.

“Fe fydd llywodraeth geidwadol yn y Cynulliad yn tynnu pob busnes bach allan o drethi busnes yn gyfan gwbl,” meddai.

“A chan ein bod ni’n cydnabod fod ar rai cymunedau yng Nghymru angen mwy o help nag eraill i dyfu, gallaf gyhoeddi y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno nifer o Ardaloedd Menter.

“Fe fydd pob busnes sy’n lleoli yn yr Ardaloedd yma â hawl i ryddhad llawn o drethi busnes, yn ogystal â llai o reoleiddio, ymysg cymhelliannau eraill.

“Mae gan Ardaloedd Menter y potensial i adfywio rhai o ardaloedd tlotaf Cymru, trwy greu swyddi y mae mawr angen amdanyn nhw.”

‘Llais Newydd dros Gymru’

Yn y gynhadledd hefyd, mae’r blaid wedi cyhoeddi eu slogan ar gyfer ymgyrch yr etholiad: Llais Newydd dros Gymru.

“Mae neges y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiad y Cynulliad yn un gref, sy’n canolbwyntio ar ein blaenoriaethau o iechyd, addysg, twf economaidd a defnyddio arian yn ddoeth,” meddai Nick Bourne.

“Mae Llafur wedi cael ei gyfle ac wedi methu. Mae targedau iechyd yn cael eu methu, mae’n system addysg yn mynd at yn ôl, a ni yw rhan dlotaf y Deyrnas Unedig.

“Mae’n bryd cael llais newydd i gynrychioli pobl Cymru. Y Ceidwadwyr Cymreig yw hwnnw.”

Fe fydd Canghellor y Trysorlys, George Osbourne, yn annerch y gynhadledd yn Stadiwm Swalec, Gerddi Sophia, y prynhawn yma.