Nant Gwrtheyrn
Bydd pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd yn cyfarfod ym Mhwllheli heddiw i drafod rhoi caniatâd i ehangu’r cyfleusterau yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn a chodi gwesty newydd yn Abersoch.

Mae swyddogion cynllunio’r cyngor wedi argymell gwrthod rhoi caniatâd i ddymchwel Gwesty’r Tŷ Gwyn yn Abersoch er mwyn codi un arall gwerth £6.5 miliwn yno.

Mae hynny er bod y datblygwyr wedi dweud y byddai’n creu hyd at 96 o swyddi newydd, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Ond mae disgwyl i’r un pwyllgor roi caniataid i gynnig i adeiladu rhagor o lefydd preswyl a chanolfan gynhadledd yng nghanolfan iaith Nant Gwrtheyrn.

Mae’r cynlluniau yno’n cynnwys adeilad preswyl newydd a fyddai’n cynnig llety ar gyfer 40 o bobl ychwanegol ar y safle.

Maen nhw hefyd eisiau ehangu’r caffi presennol ac adeiladu canolfan gynadledda newydd. Mae Nant Gwrtheyrn wedi dweud y byddai hun yn creu tua deg o swyddi newydd.