Ymarfer da - Menter Iaith Caerffili'n defnyddio'r cyfryngau newydd
Mae adroddiad newydd yn galw am weddnewid y ffordd y mae’r iaith Gymraeg yn cael ei hyrwyddo’n lleol, gyda llawer mwy o gydweithio rhwng Mentrau Iaith a chyrff eraill.

Fe fyddai’n golygu bod cyrff a sefydliadau eraill, heblaw’r Mentrau, yn gallu cynnig am arian i wneud y gwaith.

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud hefyd fod amrywiaeth fawr rhwng y Mentrau a’i gilydd – rhai’n dal i fod “â meddylfryd bore coffi” ac yn amharod i wynebu problemau anodd; eraill yn gwneud gwaith da iawn gydag ychydig o adnoddau.

Un o’r prif feirniadaethau yw fod diffyg cysylltiad gyda chyrff eraill, gan gynnwys rhai sy’n creu polisi, a bod ansicrwydd a dryswch rhwng y Mentrau a mudiadau eraill.

Fe gafodd yr adroddiad ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru – dolen yma.

Beirniadaeth

Ymhlith y beirniadaethau  eraill mae:

  • “Gormod o bwyslais ar brosesau a gweithgareddau” yn hytrach na newid go iawn.
  • Targedau gan y Llywodraeth sydd heb eu teilwrio at anghenion lleol.
  • Dyblygu gwaith rhwng mudiadau a sefydliadau a thuedd ymhlith rhai Mentrau i wneud gwaith a ddylai gael ei wneud gan wirfoddolwyr.
  • Diffyg arbenigedd mewn cynllunio iaith a phroblemau recriwtio staff oherwydd trefn gyllido tymor byr.

Ond mae’r adroddiad yn pwysleisio bod rhai Mentrau’n gwneud gwaith da iawn gydag ychydig o adnoddau ac arian – “pytiog” yw gwaith rhai o’r lleill.

Newid y drefn

Y prif argymhelliad yw newid y system o dalu ar gyfer y Gymraeg yn lleol, gan greu cynllun ar gyfer ei datblygu yn y gymdeithas ac yn gymunedol – byddai cyrff o bob math, gan gynwys y Mentrau, wedyn yn cynnig am arian i weithredu hynny.

Yn ôl yr adroddiad gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, fe fyddai’r cynllun yn cynnwys arbenigwyr o raglenni eraill fel Cymuedau’n Gyntaf gan weithredu mewn meysydd fel yr economi a chyflogaeth.

Fe ddylai Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru fod yn rhan o’r gwaith o lunio’r cynllun a’i weithredu, meddai’r adroddiad gan Uned Ymchwil Iaith, Polisi a Chynllunio sy’n rhan o Ysgol y Gymraeg y Brifysgol.

Dyma rai o’r argymhellion eraill

  • Un corff cydlynu cenedlaethol ar gyfer y Mentrau Iaith, gan wneud llawer o’r gwaith ‘cefn swyddfa’ ar eu rhan.
  • Cael cytundeb rhwng gwahanol gyrff ac asiantaethau ynglŷn â phwy ddylai wneud be – mae’r adroddiad yn dweud bod llawer o ddyblygu’n digwydd a rhai awdurdodau lleol, er enghraifft, yn defnyddio’r Mentrau’n esgus i osgoi eu cyfrifoldebau eu hunain.
  • Cael rhagor o Gynlluniau Datblygu Ardal, fel yr un arbrofol yn ardal Aman Tawe – ond mae’n dweud bod Cynlluniau Gweithredu Iaith a sefydlwyd mewn ardaloedd lle mae shifft ieithyddol yn arwain at gystadlu rhwng y Cynlluniau a’r Mentrau lleol gyda gormod o bwyslais ar dargedi yn hytrach na gweithredu’n effeithiol.
  • Rhoi mwy o sicrwydd ariannol i’r cyrff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg gyda chyllid am rhwng tair a phum mlynedd, yn hytrach na fesul blwyddyn.
  • Mae angen rhaglen o hyfforddiant dwys i ddatblygu gwaith ym maes cynllunio a newid ymddygiad ac i’r sefydliadau o ran cyrraedd grwpiau llai amlwg o bobol.

Rhai dyfyniadau am y Mentrau

“Mae rhai sefydliadau’n gweithio’n arbennig o dda o ystyried cyn ised y cyllid a chyn uched y disgwyliadau sydd arnynt i ysgwyddo cyfrifoldeb am y Gymraeg yn eu hardaloedd.”

“… nid ydym yn teimlo eu bod bob amser, ac ymhob sefydliad, yn sianelu’r egni hwn i gyfeiriad pwrpasol ac i gynlluniau sy’n gwneud gwahaniaeth strategol, cynaliadwy yn y mannau priodol.”

“Mae angen cryfhau nifer o elfennau, megis gwell hyfforddiant a dulliau systematig er

mwyn adnabod anghenion a blaenoriaethau ieithyddol (ar sail ymchwil, dadansoddi data, barn grwpiau ffocws ac ati), troi’r angen yn gynllun gweithredu, gweithredu prosesau monitro effeithiol a dulliau priodol i fesur deilliannau ac effaith gan nad yw hyn yn digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd.”

“… mae’r uchelgais a pharodrwydd i fentro i feysydd ‘anodd’ yn amrywio’n fawr o sefydliad i sefydliad. O ganlyniad i’r anghysondeb hwn, mae rhai sefydliadau’n dal i fodloni â’r meddylfryd ‘bore coffi’, tra bo sefydliadau mwy arloesol yn mynd ag ystyriaethau ieithyddol i fyd cyflogaeth ehangach ac i beuoedd economaidd gwirioneddol strategol a hunangynhaliol.”