Mae Menter Iaith Gorllewin Sir Gar wedi beirniadu penderfyniad y Carmarthen Journal i gwtogi maint y dudalen Gymraeg yn y papur.

Mae’r dudalen Gymraeg wedi cael ei lleihau i faint colofn, sy’n llai na hanner yr hyn oedd hi’n arfer bod.

Yn ôl cadeirydd Menter Iaith Gorllewin Sir Gar, sy’n darparu cynnwys y dudalen ers 10 mlynedd, cafodd y penderfyniad ei wneud heb ymgynghori â nhw.

Dywedodd Meirion Jones: “Y siom fwyaf yw’r ffordd maen nhw wedi gwneud hyn – dim rhybudd, dim ond rhyw bwt o e-bost i ddweud y bydden nhw’n torri maint y dudalen.

“Rydym yn gobeithio y bydd y papur yn ailystyried ac y gallwn ni drafod ffyrdd o hybu’r iaith yn hytrach na’i hanwybyddu.”

Rhesymau

Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, mae 47% o bobol yn medru’r Gymraeg yn Sir Gar felly nid yw Meirion Jones yn credu mai ffigyrau darllen sydd wrth wraidd lleihau’r dudalen.

“Mae hi’n dudalen boblogaidd felly dwi’n credu mai arian yw un o’r rhesymau, yn ogystal ag anwybodaeth am y Gymraeg.

“Mae ‘na awgrymiad yn yr e-bost os y gallwn ni roi cyfraniad yna bydden nhw’n ailystyried. Ond mi rydym ni’n paratoi’r gwaith i gyd ar eu rhan nhw, a dydyn nhw dal methu dod o hyd i le yn y papur.”

Mae’r Carmarthern Journal yn cael ei reoli gan gwmni Local World Limited.

“Mae o’n gwmni mawr sy’n debygol o fod yn ddiwybod am fodolaeth y Gymraeg,” meddai Meirion Jones

Cyfarfod

Mi fydd Menter Iaith Gorllewin Sir Gar a’r Carmarthern Journal yn cyfarfod ar Chwefror 14 i drafod y newidiadau.

Mae golygydd y Carmarthen Journal, Emma Bryant, wedi dweud fod y papur yn “edrych ymlaen at drafod y sefyllfa.”