Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i osod safonau iaith clir ar gwmnïau ffôn a thelathrebu.

Daw’r cais wrth i Meri Huws gychwyn ar ei hymchwiliad i mewn i’r set gyntaf o safonau iaith a fydd yn newid y fframwaith cyfreithiol ynghylch defnyddio’r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Bydd gan y Comisiynydd y pŵer i gosbi cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau preifat, megis cwmnïau nwy, trydan, a ffôn, am dorri eu hymrwymiad i’r iaith.

Ym mis Tachwedd 2013, fe wnaeth Golwg 360 adrodd am gwmni yswiriant Swinton yn gwrthod gadael i staff drafod busnes gyda’u cwsmeriaid yn Gymraeg, er eu bod nhw’n medru siarad Cymraeg.

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn “parhau i ymchwilio” i mewn i’r achos.

‘Angen i’r cyhoedd ymateb’

Dywedodd Siân Howys, llefarydd hawliau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, y byddai’n fater o bryder pe na fyddai’r Comisiynydd yn datgan yn glir pryd y bydd cwmnïau fel cwmnïau ffôn symudol yn gorfod cydymffurfio â’r safonau.

“Yn eu strategaeth iaith mae’r Llywodraeth wedi addo’n ddiflewyn ar dafod y byddan nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector cyhoeddus.

“Mewn adroddiad gan Gyngor Casnewydd – yr unig gyngor sydd heb wefan Gymraeg o ryw fath – yn trafod y ffaith eu bod yn torri’r gyfraith ar hyn o bryd, meddai’r Cyngor: ‘Mae angen hygrededd yn ein hymagwedd neu fe allai arwain at set o safonau mwy llym y bydd yn rhaid i ni gydymffurfio â nhw erbyn Gorffennaf 2015.’”

Ychwanegodd Sian Howys: “Fel yng Nghasnewydd, mae nifer o gynghorau yn mynd i geisio atal pobl rhag cael eu hawliau iaith.

“Maen nhw’n mynd i ddefnyddio ymchwiliad y Comisiynydd er mwyn gwanhau’r safonau. Mae’n bwysig felly bod pobl gyffredin, caredigion yr iaith yn ymateb.