Mae dynes 61 oed wedi cael ei darganfod yn farw mewn afon yng Ngorseinon, Abertawe ddoe.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw am tua 3 o’r gloch ddoe i Ffordd Abertawe, ar ôl derbyn adroddiadau fod corff yn yr afon.

Cafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Treforys lle bu farw’n ddiweddarach.

“Credwn fod y ddynes yn byw yn yr ardal,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Nid yw’r heddlu’n sicr beth achosodd ei marwolaeth ar hyn o bryd ac maen nhw’n cynnal ymchwiliad.