Mae’r M4 i’r gorllewin yn wedi cau wedi i ddwy lori wrthdaro yn nhwneli Brynglas ger Casnewydd y bore ma.
Digwyddodd y ddamwain tua 6:30yb ond mae’n debyg nad oes neb wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.
Doedd dim sylweddau peryglus yn cael eu cludo gan y lorïau.
Mae’r heddlu yn parhau i fod ar y safle ac mae gyrwyr yn cael eu hannog i osgoi’r ardal bore ma.