Mae arbenigwr etholiadau yn proffwydo buddugoliaeth cyfforddus i’r ymgyrch ‘Ie’ yn y Refferendwm heddiw.

Ond mae adroddiadau wedi dod i law am niferoedd isel iawn yn pleidleisio mewn rhannau o ddinasoedd y de ddwyrain.

“Mae’r polau piniwn yn awgrymu bod mwyafrif iachus o blaid ‘Ie’, “ meddai Anthony Wells o gwmni Polau Piniwn YouGov ac awdur y blog dylanwadol ‘UK Polling report’.

“Dim ond pobol sydd â gwir ddiddordeb ym materion Cymru fydd yn cymryd rhan ac felly does dim rheswm i amau nad yw’r ymgyrch ‘Ie’ ar y blaen.”

Mae adroddiadau ar wefan Twitter yn awgrymu bod niferoedd isel iawn wedi pleidleisio hyd yn hyn mewn rhannau o Gaerdydd a Chasnewydd.

“Araf iawn yn ein gorsaf pleidleisio yng Nghasnewydd. Y ni oedd rhifau 45 a 46 ar ôl hanner dydd,” meddai Adrian Masters gohebydd y BBC a oedd yn pleidleisio yn ardal Alway yn nwyrain y Ddinas. A bu dau arall yn trydar am y niferoedd isel ar twitter hefyd

“Amser cinio, ac mae tua 58 pleidlais wedi cael eu bwrw yng ngorsaf bleidleisio East Moors,” meddai Splot online.

“10% wedi pleidleisio yng Nghanolfan Hamdden y Seren (Y Star Leisure Centre), Splot.

Mae 1500 ar y rhestr a dim ond 150 sydd wedi bwrw pleidlais,” meddai cardiffian_news, gwefan sy’n cael ei gynnal gan dîm o giw-newyddiadurwyr ym mhrifysgol Caerdydd.