Mae cwmni Halen Môr Môn wedi ymuno â rhai o fwydydd enwocaf y DU – fel caws Stilton a phasteiod Melton Mowbray – drwy sicrhau statws gwarchodedig.

Mae bwydydd sydd wedi ennill statws gwarchodedig wedi’u hamddiffyn gan yr Undeb Ewropeaidd  sy’n gwarantu eu dilysrwydd a tharddiad ac yn atal cwmnïau ffug rhag defnyddio’r un enw.

Mae’r dyfarniadau diweddaraf yn dod â’r cyfanswm o gynnyrch y DU sy’n cael eu diogelu i fwy na 60. Mae eraill yn cynnwys wystrys Whitstable a chaws Wensleydale.

Amcangyfrif bod cynnyrch bwyd sy’n cael ei ddiogelu yn y DU yn cyfrannu £900 miliwn i economi Ewrop ac mae’r Llywodraeth yn awyddus i annog mwy o geisiadau am statws gwarchodedig.

Mae busnes teuluol Halen Môn yn rhagweld y bydd eu statws newydd yn golygu y bydd rhaid iddyn nhw gynyddu eu gweithlu hyd at 25% eleni.

Dywedodd Alison Lea-Wilson o Halen Môn bod y cwmni wrth eu boddau o dderbyn y statws  gan ymuno a chynnyrch Cymreig gwarchodedig eraill fel cig oen a chig eidion o Gymru a thatws cynnar Sir Benfro.

Mae Halen Môr Môn yn dod o naddion halen sy’n cael ei gynaeafu o’r Afon Menai. Mae’n cynnwys mwynau sy’n ei gwneud yn wahanol o ran ymddangosiad, gwead a blas. Mae Halen Môn eisoes yn allforio i 20 o wledydd.

Dywedodd Alison Lea-Wilson: “Gall defnyddwyr sy’n prynu Halen Môn nawr fod 100% yn siŵr eu bod yn cael cynnyrch sydd wedi ei gynaeafu a’i bacio ar Ynys Môn. “