Nia Roberts
Mae tad Nia Roberts wedi cwyno nad yw hi wedi derbyn unrhyw fath o ddiolch gan Radio Cymru na’r BBC am ei gwaith yn cyflwyno sioe ddyddiol ar y donfedd am dros 20 mlynedd.

Daeth sioe brynhawn Nia Roberts i ben cyn y Dolig, wrth i Radio Cymru gyhoeddi amserlen newydd fydd yn cychwyn fis Mawrth.

Mewn llythyr at gylchgrawn Golwg yr wythnos hon dywedodd yr actor enwog J.O. Roberts ei fod wedi ysgrifennu at Sian Gwynedd, pennaeth Radio Cymru, yn tynnu sylw at yr hyn mae’n ei weld fel cam.

Yn y llythyr mae’r actor adnabyddus J.O. Roberts, a fu’n amlwg yng nghyfresi Deryn a Talcen Caled ar S4C ymhlith pethau eraill, yn dweud: ‘Wedi dros ugain mlynedd o ddarlledu dyddiol, a hynny gyda graen arbennig gan Nia Roberts, ni fu gair o werthfawrogiad, cydnabod na diolch am y cyfraniad hwnnw, gennych chwi na’ch cyd-uchelswyddogion yn gyhoeddus trwy unrhyw gyfrwng – rhyfedd o fyd!’

Ymateb Radio Cymru

Pan gysylltodd golwg360 â’r BBC, dywedodd llefarydd nad oedden nhw am wneud sylw cyhoeddus yn ymateb yn uniongyrchol i lythyr J.O. Roberts.

Ond fe dynnodd y llefarydd sylw at sylwadau Betsan Powys pan gyhoeddwyd y newidiadau, pan dalwyd teyrnged ganddi i’r cyflwynwyr hynny na fyddai’n cael eu clywed mor aml bellach ar yr orsaf. Bryd hynny roedd golygydd Radio Cymru yn diolch iddyn nhw am eu hymroddiad a’u gwaith caled.

Pwysleisiodd y BBC hefyd nad oedd hi’n ddiwedd ar gyfnod Nia Roberts yn darlledu gyda nhw, gyda Betsan Powys yn ei disgrifio fel “llais creiddiol” i’r orsaf, ac y byddai’n dal i gyfrannu rhywfaint tuag at raglenni trafod llenyddiaeth a chelf.