Jake Griffiths
Mae 70,000 o bleidleisiau Llafur yn cael eu gwastraffu yn Rhanbarth Cynulliad Canol De Cymru, meddai arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru.

“Os y’ch chi yn rhywun ar y chwith, yn cefnogi gwleidyddiaeth flaengar, does dim pwynt rhoi eich ail bleidlais i Lafur o gwbl,” meddai Jake Griffiths sy’n sefyll dros y blaid yn y rhanbarth yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

“Rydych chi’n gwastraffu 70,000 o bleidleisiau. Second Vote Green yw ein neges ar gyfer Etholiad y Cynulliad.”

Gwrthododd Jake Griffiths bod y Blaid Werdd ond yn rhanbarth wan oddi fewn i ‘Blaid Werdd Lloegr a Chymru’, teitl swyddogol y blaid, sydd â’i phencadlys yn Llundain. Mae gan y Gwyrddion bencadlys ar wahân yn Yr Alban.

“Rydyn ni yn ddatganoledig, mae gennym ni swyddfa yn Abercynon. Nid oes pencadlys Cymreig, ond rydyn ni yn trefnu pethau’n annibynnol i beth sydd yn digwydd yn Lloegr.”

“Mae’n strwythur tebyg i beth sydd gyda’r Blaid Lafur”, meddai Jake Griffiths.

Drallenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth