Prifysgol Caerdydd
Ddiwedd Mawrth fe fydd tri Aelod Seneddol o Gymru yn cwrdd â’r Gweinidog dros Fewnfudo yn San Steffan i drafod fisas i fyfyrwyr o dramor.

Mae AS Aberhonddu a Maesyfed, Roger Williams, eisoes wedi codi pryderon am effaith hyn ar y prifysgolion a’r economi yn Nhŷ’r Cyffredin.

“Mae’r myfyrwyr hyn yn cyfrannu o leiaf £5 miliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Unedig. Mi fyddai newid [y drefn] yn ei gwneud hi’n anodd denu myfyrwyr tramor a byddai’n golygu cwymp mewn ariannu i’r Prifysgolion,” meddai.

Ond mae’r llywodraeth yn mynnu na fydd hi’n bosib lleihau’r nifer o fewnfudwyr i Brydain heb gyfyngu ar y nifer o fisas i fyfyrwyr tramor o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Yn ôl datganiad ar wefan y Swyddfa Gartref ac ar lafar yn Nhŷ’r Cyffredin mae’r Gweinidog dros Fewnfudo, Damien Green, yn mynnu bod yn rhaid dewis a dethol y myfyrwyr yn ofalus a dim ond rhoi fisas i’r goreuon.

Fel arall meddai, “mae myfyrwyr tramor yn dod yma gyda’r bwriad o fyw a gweithio yn hytrach nag astudio”.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 3 Mawrth