Richard Parks (Llun oddi ar wefan www.richardparks.co.uk)
Mae cyn-flaenasgellwr Pontypridd a Chymru wedi cyrraedd Pegwn y De yn gyflymach na’r un Prydeiniwr arall erioed.

Richard Parks yw’r cyflymaf i wneud y daith ar ei ben ei hun, heb gefnogaeth.

Fe gyrhaeddodd Begwn y De heddiw am 5.24yb (ein hamser ni). Fe gymrodd hi 29 diwrnod, 19 awr a 24 munud i wneud y daith 1150km (neu 715 milltir).

Ond, ar wahan i fod y Prydeiniwr cyflyma’ i gyrraedd y Pegwn, Richard Parks yw’r ail gyflyma’ erioed i gyflawni’r gamp.

“Rwy’ i wedi blino’n ofnadwy,” meddai Richars Parks o Begwn y De.

“Yn gorfforol, rwy’n rhacs. Yn feddyliol, rwy’n flinedig iawn. Mae’n lot i’w dderbyn. Mae nifer o emosiynau’n bownsio o gwmpas ar hyn o bryd, ond rwy’n hapus, yn falch ac yn ddiolchgar iawn.”