Brenhines Lloegr ac Ifor ap Glyn ym Mhalas Buckingham
Yn ddiweddar bu mintai o brifeirdd a phobol lenyddgar Cymru draw i Balas Buckingham i ddathlu barddoniaeth gyfoes Brydeinig.

Yno ar ran y Cymry roedd yr Archdderwydd Christine James, Ifor ap Glyn Prifardd Eisteddfod Dinbych eleni, a Lleucu Siencyn sy’n Brif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.

Fe gawson nhw gyfarfod Elizabeth yr Ail, sy’n Frenhines Lloegr ers 1952, ar nos Fawrth y 19eg o Dachwedd.

Bwriad yr achlysur oedd “dathlu’r ffaith bod barddoniaeth fel cyfrwng yn ffynnu ym Mhrydain ar hyn o bryd” meddai Christine James.

Er bod bardd mwya’ Cymru, Gerallt Lloyd Owen, wedi mynegi siom yn ei awdl enwog i Lywelyn Ein Llyw Olaf bod ‘Ein coron gan goncwerwr’, doedd yr Archdderwydd ddim yn gweld unrhyw anhawster o ran mynd i weld Brenhines Lloegr ym Mhalas Buckingham.

“Does dim problem…a dweud y gwir mae’r Frenhines yn aelod o’r Orsedd,” meddai Christine James.

“Yn bersonol doeddwn i ddim yn gweld problem gyda’r peth. Hynny yw, roeddwn i’n gweld e’n wahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth – tasen ni wedi cael gwahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth Ffrainc, neu beth bynnag, bydden ni wedi bod yn falch iawn o fynd â’r gore o farddoniaeth Gymraeg yno.”

Ifor ap Glyn

Meddai Ifor ap Glyn: “Ces i wahoddiad i fynd i dŷ crand yn Llundain. Wnes i ysgwyd llaw â’r hen ledi sy biau’r lle. A dw i heb molchi ers hynny.”

Mwy o luniau yng nghylchgrawn Golwg