Fe ddylai bobol leol gael blaenoriaeth yn y system gynllunio, er mwyn cryfhau cymunedau Cymraeg. Dyna yw un o argymhellion papur polisi Cymdeithas yr Iaith a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidog Tai ac Adfywio heddiw.

Mae’r mudiad iaith wedi mynegi pryder nad oes sôn am y Gymraeg nac effaith y system gynllunio arni yn y Bil drafft ac maen nhw hefyd yn pryderu am effaith datblygiadau tai ar y Gymraeg ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan.

Mae nifer y cymunedau sydd â mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011.

‘Cyfle i gryfhau’r Gymraeg’

Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a fydd yn arwain y ddirprwyaeth i weld y  Gweinidog heddiw: “Rydyn ni am gyflwyno’r syniadau polisi hyn er mwyn dangos i’r Gweinidog bod y Bil yn gyfle mawr i gryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol.

“Mae’r  system ar hyn o bryd yn rhoi buddiannau datblygwyr mawr, nifer ohonynt sydd â’u pencadlys tu allan i Gymru, yn gyntaf yn hytrach na chymunedau. Mae’n arwain at sefyllfa lle nad yw pobl yn gallu fforddio byw yn eu hardaloedd lleol.

“Mae llawer iawn o dai gwag, a dyna sydd angen canolbwyntio arnyn nhw. Dydyn nhw ddim yn cynnig cyfleoedd am elw mawr i ddatblygwyr mawr, ond maen nhw’n well i adeiladwyr bach, yr economi lleol, yr amgylchedd a’r Gymraeg.”

Bydd y papur yn cynnig syniadau i:

  • wneud y Gymraeg yn ystyriaeth cynllunio berthnasol ledled Cymru fel bod modd gwrthod ceisiadau ar sail eu heffaith iaith;
  • roi blaenoriaeth i bobl leol fel y gwneir yn Ardal y Llynnoedd yn Lloegr;
  • wneud asesiadau effaith iaith yn ofyniad statudol ar gyfer datblygiadau o faint penodol;
  • sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, yn lle’r Arolygiaeth Gynllunio bresennol, a fyddai’n gwrando ar apeliadau gan gymunedau ac unigolion;
  • sefydlu mai pwrpas y system gynllunio fyddai dwell anghenion lleol;
  • fabwysiadu polisi caffael blaengar.

Mae’r Gymdeithas wedi rhoi tan Chwefror 1 i’r Prif Weinidog ddatgan ei fwriad i drawsnewid y system gynllunio er lles y Gymraeg a bydd y grŵp pwyso yn cynnal rali yn Aberystwyth ar 14 Rhagfyr.