Bae Caerdydd
Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi grantiau o hyd at £3000 yr un ar gyfer cwmniau bach mewn deg o ddinasoedd er mwyn eu galluogi i gysylltu efo rhwydwaith band-eang cyflymder uchel.

Mae Caerdydd a Chasnewydd ymhlith y dinasoedd fydd yn elwa a bydd y cynllun yn cael ei ymestyn i 12 dinas arall y flwyddyn nesaf.

Belffast, Salford, Portsmouth, Derby, Bryste, Caeredin, Llundain a Manceinion ydi’r gweddill.

Fe gyhoeddwyd y cynllun gan y Prif Weinidog David Cameron heddiw am ei bod yn “Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach”.

“Bydd y talebau band-eang yma o hyd at £3,000 nid yn unig yn anferth o hwb i dŵf yn y DU ond bydd yna botenstial hefyd i ddod a China i Gaerdydd, Brasil i Fryste a’r Emirates i Gaeredin mewn marchnad allforio sy’n cynyddu,” meddai.

“Fel rhan o’n cynlllun economaidd, rydw’i eisiau rhoi pob mantais posib i’n busnesau bychain gystadlu yn y râs fyd-eang, a hefyd gael yr hyblygrwydd i sefydlu ar draws y DU,” ychwanegodd.