Mark Drakeford
Mae canllawiau newydd wedi cael eu cyhoeddi yn y gobaith o wella sut mae gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn cyfathrebu hefo pobol ag anghenion synhwyro – gan gynnwys pobol sy’n ddall, yn fyddar neu gydag anghenion arbennig.

Mae’r canllawiau wedi eu teilwra i oedolion, pobol ifanc a phlant ac mi fydden nhw’n “delio gyda’r rhwystrau sy’n wynebu pobol gydag anghenion synhwyro wrth ddefnyddio’r Gwasanaeth Iechyd”.

Mae 534,000 o bobol yng Nghymru hefo anhawster clywed a bron i 100,000 hefo problemau gweld – sy’n debygol o ddyblu yn y 25 mlynedd nesaf, yn ôl Tony Rucinski, Cadeirydd RNIB Cymru.  Fe fydd yn golygu y bydd staff yn cael rhagor o hyfforddiant yn y meysydd yma.

‘Gofal gwell’

Mae’r canllawiau newydd yn ymwneud a phobol sy’n:

  • ddall, neu’n rhannol ddall
  • fyddar, neu’n rhannol fyddar
  • siarad Saesneg fel ail iaith
  • gydag anghenion dysgu
  • cael trafferthion cyfathrebu oherwydd anaf.

Wrth siarad am y canllawiau newydd, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford:

“Mae’n rhaid i’r GIG fod yn hygyrch i bawb sy’n ei ddefnyddio a bydd y canllawiau newydd – unwaith y bydden nhw ar waith – yn delio gyda’r rhwystrau sy’n wynebu pobol gydag anghenion synhwyro wrth ddefnyddio’r gwasanaeth iechyd.”

Mae Ymddiriedolaeth y Gwasanaeth Ambiwlans yn defnyddio lluniau i gyfathrebu hefo cleifion sydd methu siarad â nhw a dywedodd y prif weithredwr, Elwyn Price-Morris: “Bydd cyfathrebu gwell rhwng y staff a’r cleifion yn golygu triniaeth ac ansawdd gofal gwell.”