Ieuan Wyn Jones
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones, wedi addo dal ati i roi pwysau ar Lywodraeth San Steffan i drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain.

Does dim siw na miw wedi bod gan y llywodraeth yn Llundain ers iddyn nhw gyhoeddi y llynedd fod y prosiect wedi ei atal dros dro.

Heddiw dywedodd Ieuan Wyn Jones mewn datganiad i aelodau eraill y Cynulliad y byddai’n parhau i roi pwysau ar Whitehall.

“Er bod y cyfrifoldeb dros ariannu’r prosiect yn fater sydd heb ei ddatganoli, mae fy swyddogion yn gweithio gyda Whitehall i gynnig mewnbwn i’r achos busnes y mae’r Adran Trafnidiaeth yn ei baratoi,” meddai.

“Mae yna oblygiadau economaidd ac amgylcheddol sydd i’w deall yn well o safbwynt Cymreig.

“Rydyn ni wedi cael gwybod nad ydi’r Adran Drafnidiaeth wedi cwbwlhau fersiwn terfynol yr achos busnes, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at ei weld.

“Serch hynny, mae yna arwyddion calonogol fod budd amlwg i drydaneiddio y rheilffordd gyfan rhwng Abertawe a Llundain.”

Ychwanegodd Ieuan Wyn Jones ei fod wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ddydd Gwener ddiwethaf gan alw am benderfyniad “cadarnhaol”.

“Pwysleisiais i eto y byddai penderfyniad buan yn gwneud lles ac y byddai’n hwb i fusnesau sydd eisiau buddsoddi yng Nghymru,” meddai.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, y llynedd ei bod hi o blaid y cynllun a gyhoeddwyd gan y cyn Brif Weinidog, Gordon Brown, yn 2009.

Ond roedd “ystod eang o ffactorau angen eu hystyried,” meddai.