Craig Bellamy
Mae capten Caerdydd, Craig Bellamy, wedi ei rybuddio gan yr heddlu yn dilyn ymosodiad yn y brifddinas fis diwethaf.

Fe gafodd y Cymro 31 oed ei arestio yn dilyn ffrae ar Stryd Caroline, ‘Chippy Lane’, ar 9 Ionawr cyn cael ei ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.

Roedd dau ddyn yn eu 20au wedi dioddef anafiadau i’w hwynebau, ond doedd dim angen unrhyw driniaeth arnynt.

Mae dyn 36 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wythnos ar ôl Craig Bellamy hefyd wedi ei ryddhau fechnïaeth.

Mae Bellamy wedi bod ar fenthyg gyda’r Adar Glas wrth Man City y tymor yma, ac mae wedi sgorio goliau allweddol yn ddiweddar yn erbyn Reading ac Abertawe.