Jennifer Mills-Westley
Bydd ymchwiliad yn cael ei gynnal i sut y cafodd dyn a oedd yn derbyn triniaeth am sgitsoffrenia paranoiaidd, ei ryddhau o Ysbyty Glan Clwyd, cyn iddo ymosod ar  ddynes yn Tenerife.

Cafwyd Deyan Deyanov, 29, sy’n wreiddiol o Fwlgaria, yn euog o drywanu a dienyddio Jennifer Mills-Westley. Cafodd ei ddedfrydu i 20 mlynedd mewn uned ddiogel yn Sbaen ym mis Chwefror.

Digwyddodd yr ymosodiad mewn canolfan siopa yn Los Cristianos ar 13 Mai 2011 – lai na blwyddyn ar ôl i Deyan Deyanov gael ei ryddhau o Ysbyty Glan Clwyd – ac fe wnaeth gyfaddef ddefnyddio cyffuriau crac cocên ac LSD pan gafodd ei arestio.

Ymgyrchu

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fydd yn cynnal yr ymchwiliad, sy’n dod ar ôl i deulu Jennifer Mills-Westley fod yn ymgyrchu am ymchwiliad am ddwy flynedd a hanner.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eisoes wedi cynnal adolygiad mewnol yn eu gwasanaeth ac wedi dweud bod gwersi wedi cael eu dysgu.

Dywedodd Samantha Mills-Westley, merch Jennifer Mills-Westley wrth y BBC:

“Mae hi’n glir iawn fod methiannau yn asesiad risg Deyanov, y gofal a gafodd yn yr uned seiciatryddol, hyfforddiant y staff a’r cyngor ymgynghorol a gafodd.”