Mae perchnogion maes carafanau Ocean Heights ger Chwilog yn Eifionydd wedi llwyddo yn eu hapêl i gadw’r lle yn agored trwy gydol y flwyddyn.

Roedd Cyngor Gwynedd wedi gwrthod y cais a hynny’n groes i argymhelliad y swyddogion.

Mae’r Cynghorydd Aled Evans yn cynrychioli Chwilog ac wedi ymgyrchu yn erbyn cynlluniau perchnogion Ocean Heights gan ddadlau y bydd ymestyn y tymor gwyliau yno yn golygu y gall y cyfleusterau gwyliau droi yn gartrefi parhaol a chael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus ac ar y Gymraeg.

Wrth siarad efo golwg360 ym mis Chwefror dywedodd Mr Evans:

“Mae’r diffyg gwaith mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd glan-môr am olygu mai pobl wedi ymddeol, neu bobl ddi-waith, fydd yn symud i feysydd carafanau o’r fath – a fydd yn golygu mwy o draul ar wasanaethau cyhoeddus yr ardal.

“Mae llawer o’m hetholwyr yn bryderus hefyd am yr effaith ar y Gymraeg. Roedd fy ward leol i, Llanystymdwy, ymhlith yr ychydig o ardaloedd lle mae’r Gymraeg wedi dal ei thir dros y 10 mlynedd ddiwethaf yn ôl cyfrifiad 2011 – ac un o’m prif amcanion fel cynghorydd ydi sicrhau bod hyn yn parhau.”

Angen adroddiad cynhwysfawr

Heddiw dywedodd ei fod “yn siomedig gyda dyfarniad yr Arolygydd Iwan Lloyd” gan gydnabod hefyd y gwendidau sylfaneol yn achos y Cyngor.

“Nid oedd y penderfyniad yn syndod ychwaith. Yr oedd achos y Cyngor wedi ei danseilio gan argymhelliad ei swyddogion ei hun ynghyd â chan adroddiad iaith annigonol a ddefnyddiwyd i gadarnhau eu dadl.

“Yn wyneb y fath sefyllfa annerbyniol, mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i fynd ati rhag blaen i wneud asesiad trylwyr a chyflawn o werth ac effaith y 15,000 o garafanau sydd ar hyd a lled y sir, ar y Gymraeg.

“Daeth yn amlwg i mi drwy gydol y drafodaeth ar achos Ocean Heights, mai rhannol ac annigonol iawn oedd gwybodaeth y Cyngor ei hun am y sefyllfa.

“Rwy’n credu y byddai comisiynu adroddiad cynhwysfawr yn arweiniad gwerthfawr i benderfyniadau yn y dyfodol ac fel canllaw i lunio polisiau.”

“Dim effaith” ar y Gymraeg – yn ôl y dystiolaeth

Yn ôl adroddiad Iwan Lloyd fydd ymestyn tymor Ocean Heights “ddim yn cael effaith andwyol awyddocaol ar y Gymraeg “ ar sail asesiad diwyllianol y Cyngor ei hun.

“Mae’r Cynghorwyr lleol a’r trigolion yn honni y bydd yna effaith ar yr iaith Gymraeg,” meddai.

“Mae’n rhaid asesu’r risg yng ngoleuni y dystiolaeth sydd ger fy mron, a does yna yr un darn o dystiolaeth sy’n cymell ar wahan i’r casgliadau sydd i’w cael yn yr asesiad ieithyddol a diwyllianol gomisiynwyd gan y Cyngor ei hun.”

Ychwanegodd hefyd nad yw’r cynnig yn mynd yn groes i nodyn technegol TAN 20 gafodd ei ddiwygio yn ddiweddar ac sy’n ystyried effaith datblygiad ar iaith cymdeithasol a diwylliant yr ardal.