Heini Gruffudd
Mae Dyfodol i’r Iaith yn honni bod Carwyn Jones wedi anwybyddu prif gasgliadau’r Gynhadledd Fawr ar yr iaith, a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf eleni yn dilyn canlyniadau siomedig y Cyfrifiad a oedd yn dangos bod yr iaith yn marw yn ei chadarnleoedd.

“Y brif her i’r Gymraeg yn ôl y Gynhadledd yw symud poblogaeth, a bod angen polisïau economaidd, polisïau tai a chynllunio, polisïau addysg a pholisïau datblygu cymunedol i ymateb i’r her,” medd Heini Gruffudd, cadeirydd Dyfodol i’r Iaith.

Gofid Dyfodol i’r Iaith yw nad yw datganiad y Prif Weinidog ddoe yn gwneud dim i fynd i’r afael â’r dirywiad yn yr iaith yn ei chadarnleoedd.

Ailadrodd

Mae Dyfodol yr Iaith hefyd yn honni bod datganiad y Prif Weinidog yn cynnwys ailadrodd hen bolisïau’r Llywodraeth sydd wedi’u cyhoeddi’n barod, cyn y Gynhadledd Fawr ac wedi ysgrifennu ato i ofyn am eglurhad.

Ddoe roedd Carwyn Jones yn cyhoeddi Cynllun Gwelliant Mewnol y Llywodraeth (ar y Gymraeg), paratoi canllawiau i gefnogi TAN20 ac arian i raglenni TG Cymraeg – does yr un o’r pethau hyn yn deillio o’r Gynhadledd Fawr yn ôl Dyfodol i’r Iaith.

Yn llythyr i’r Prif Weinidog, mae Dyfodol yr Iaith hefyd yn gofyn faint o ymgynghori a fu gyda Chyngor Partneriaeth y Gymraeg, sydd â rôl statudol yng nghyswllt ei gynghori ar ei strategaeth iaith, cyn cyhoeddi ei ddatganiad.

Angen polisïau radical

Meddai Heini Gruffudd, Cadeirydd Dyfodol i’r Iaith: “Mae’n ymddangos bod datganiad y Prif Weinidog yn ymwneud mwy â cheisio rhoi gwedd gyhoeddus gadarnhaol na symud pethau ymlaen.

“Rydyn ni’n gwerthfawrogi ymwybyddiaeth bod angen i’r Llywodraeth wneud rhagor, ond mae’n rhaid i ni weld polisïau a gweithredu llawer ehangach a radical yn y meysydd allweddol os ydyn ni am weld unrhyw obaith o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, ac o gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg gan siaradwyr Cymraeg”.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.